|
|
||||||
Jonathan Athow Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid 100 Parliament Street Llundain SW1A 2BQ |
|||||||
|
|||||||
|
Drwy e-bost yn unig |
|
|||||
|
|
||||||
|
|
||||||
|
09 May 2023 |
||||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
|
|||
|
|
|
|
|
|||
|
Annwyl Peredur,
Rwyf yn ysgrifennu atoch yn rhinwedd fy swydd fel Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn CThEF.
Mae CThEF yn gweinyddu CTIC ar ran Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ei gofynion ac yn gweinyddu CTIC yn effeithiol.
Gwnaeth fy rhagflaenydd, Ruth Stanier, roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith CThEF o weinyddu CTIC ym mis Tachwedd 2019. Yn ddiweddar, cwrddais ag Andrew Jeffreys, cyfarwyddwr Trysorlys Cymru, a gwnaethom gytuno y gallai sesiwn arall o’r fath fod yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod gan aelodau o’r Senedd y cyfle i graffu ar waith CThEF o weinyddu CTIC. Pe hoffai’r Pwyllgor Cyllid glywed tystiolaeth gan CThEF ynghylch CTIC, naill ai nawr neu yn y dyfodol, byddwn yn fodlon iawn mynychu.
Pe bai’n well gan y pwyllgor gynnal sesiwn llai ffurfiol er mwyn ennill dealltwriaeth ddyfnach o waith CThEF o weinyddu CTIC, byddai swyddogion CThEF sydd ynghlwm wrth y gwaith hwnnw yn fodlon rhoi sesiwn anffurfiol i’r pwyllgor ac ateb unrhyw gwestiynau.
A fyddech cystal â rhoi gwybod i mi os yw’r naill neu’r llall o’r sesiynau hyn o ddiddordeb i’r Pwyllgor Cyllid.
Yn gywir,
Jonathan Athow,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid